Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn disgwyl i gynghorau sir golli 15,000 o weithwyr yn y blynyddoedd nesaf.

Y disgwyl yw y bydd cyllidebau cynghorau sir o gwmpas 9% yn llai mewn termau real rhwng nawr a 2015-16, wrth i Lywodraeth Cymru roi llai o arian iddyn nhw.

“Mae cau llyfrgelloedd, torri o ran cyfarpar meithrinfa i blant tair oed, a gofal cartref yn rhai esiamplau o sut y bydd hyn yn effeithio ar bobol,” meddai Steve Thomas.

‘Armagedon’ yn y Rhondda

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Tâf, Anthony Christopher, wedi disgrifio’r sefyllfa fel “armagedon” wrth iddyn nhw wynebu gorfod gwneud heb £56 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.

‘Her uffernol’ Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych dan bwysau i ddod o hyd i doriadau gwerth £2 miliwn o fewn yr wythnosau nesaf.

Yn ôl arweinydd y cyngor, mae “her uffernol” o’u blaenau.

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.