Cwpan Heineken
Mae pob un o undebau rygbi mawr Ewrop – heblaw Lloegr – wedi cytunoi i barhau gyda chwpan tebyg i’r Heineken.
Fe gyhoeddon nhw ddoe eu bod wedi trafod y bwriad yn Nulyn yr wythnos ddiwetha’ a’u bod yn gytun, gyda Lloegr ar y tu allan.
Mae hynny’n golygu bod undebau Cymru, Ffrainc, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal yn bwriadu cynnal cwpan Ewropeaidd, ond does gan Premiership Rugby yn Lloegr ddim bwriad i wneud hynny.
Dan yr ERC
Fe ddywedodd y pump undeb y byddai’r gystadleuaeth yn digwydd dan adain trefnwyr Cwpan Heineken ar hyn o bryd, yr ERC.
Ond does dim sicrwydd eto beth fydd barn rhanbarthau Cymru a chlybiau Ffrainc – maen nhw wedi dweud eu bod yn barod i gymryd rhan mewn cwpan newydd gyda chlybiau Lloegr.
Fe allai’r datblygiad hefyd arwain at wrthdaro pellach rhwng y rhanbarthau a’r Undeb.
‘Fframwaith i Ewrop’
Mae’n amlwg eu bod yn gweld hon yn frwydr tros ddyfodol y gêm yn Ewrop, gan sôn yn eu datganiad am ddatblygu fframwaith Ewropeaidd.
Yn eu datganiad, maen nhw’n dweud y bydd 20 o dimau yn cymryd rhan mewn cwpan i glybiau Ewrop yn 2014-15 “waeth faint o wledydd fydd yn cymryd rhan”.
“Fe fydd y gystadleluaeth yn cael eu harwian gan y corff presennol (yr ERC) … y nod cyffredin yw symud yn y pen draw at gynnwys cystadlaethau Ewropeaidd o fewn fframwaith cynhwysfawr ar gyfer rygbi Ewrop.”
Maen nhw’n dweud y bydd trafodaethau’n digwydd i wella trefniadaeth yr ERC.