Pep Clotet (llun o wefan y clwb)
Mae Abertawe wedi cyhoeddi fod Catalanwr o’r enw Pep wedi cael ei benodi i oruchwylio a gwella Academi Abertawe – ond nid yr enwog Mr Guardiola, y rheolwr o fri sydd bellach yn Bayern Munich.
Yn hytrach, Josep ‘Pep’ Clotet yw’r gŵr sydd wedi cael cyfrifoldeb dros wella strwythurau a hyfforddi yn academi’r Elyrch – gyda’r clwb yn gobeithio y gall gael effaith tebyg ar ieuenctid y clwb ac y gwnaeth Guardiola yn Barcelona.
Ymgynghorydd Academi yw teitl Clotet, gyda’r clwb yn dweud y bydd pwyslais penodol ganddo ar ddulliau ymarfer a datblygu hyfforddi.
Enillodd Clotet, sy’n 36 oed ac yn wreiddiol o ardal Barcelona, ei Drwydded-Pro hyfforddi UEFA pan oedd ond yn 26 oed, cyn mynd ymlaen i hyfforddi timau ieuenctid Espanyol am bum mlynedd.
Cafodd gyfnod yn hyfforddi yn Sweden a Norwy cyn dychwelyd i Sbaen fel rheolwr yr ail dîm yn Malaga yn 2012.
Mae’r chwaraewyr a hyfforddodd pan oedden nhw’n ifanc sydd bellach yn chwarae’n broffesiynol yn cynnwys Jordi Amat ac Alvaro Vasquez, y ddau wedi cael eu harwyddo gan Abertawe dros yr haf.
Mae rhai o’r enwau eraill yn cynnwys Christian Tello (Barcelona), David Lopez a Sergio Tejera (Espanyol), Fabrice Olinga (Malaga) ac Alexandru Maxim (Stuttgart).
Treiddio arddull trwy’r tîm
Dywedodd Clotet wrth wefan y clwb ei fod yn gobeithio gallu datblygu arddull Abertawe o chwarae pêl-droed drwy holl dimau’r academi, a’i fod wedi bod yn gwylio’r timau ieuenctid ers mis bellach.
“Dwi wedi cael fy apwyntio i helpu datblygu’r ffordd mae Abertawe yn chwarae pêl-droed drwy holl strwythur yr Academi,” esboniodd Clotet. “Mae’n hanfodol datblygu chwaraewyr i safon yr Uwch Gynghrair sydd yn gweddu’r steil mae’r clwb wedi bod yn datblygu dros y blynyddoedd.
“Dwi wedi bod yn dadansoddi’r grwpiau 16 i 21 yn ddistaw, cyn edrych ar y timau iau. Dwi yma i fod yn gefn i’r holl hyfforddwyr a helpu Abertawe i fod yn llwyddiannus am flynyddoedd i ddod.
“Mae’r cyfleusterau yma yn dangos y pwysigrwydd maen nhw’n ei roi ar y dyfodol, sydd yn syfrdanol achos ‘dy chi prin yn gweld hynny mewn clybiau eraill. Fel arfer mae popeth ynglŷn â’r tîm cyntaf a’r canlyniadau nesaf.
“Does dim ffordd gywir o chwarae. Ffeindio’r un i’ch siwtio chi sydd raid. Mae ‘na wastad gwahanol fathau o steil chwarae, boed o’n Barcelona neu Ajax.”
Efelychu Pep?
Bydd Pep Clotet ac Abertawe yn sicr yn gobeithio efelychu gwaith Guardiola yn Barcelona – yn enwedig o gofio’r cymariaethau sydd wedi cael eu gwneud yn y gorffennol rhwng steil chwarae’r ddau glwb.
Tra’r oedd Guardiola yn hyfforddwr yn system ieuenctid Barcelona, ac yn nes ymlaen yn rheolwr ar y tîm cyntaf, datblygwyd llu o sêr disglair yn system Barcelona aeth ymlaen i fod yn rhan o un o’u cenedlaethau disgleiriaf erioed.
Roedd y tîm a enillodd ddwy Gwpan Ewrop yn 2009 a 2011 o dan Guardiola’n cynnwys Lionel Messi, Andres Iniesta, Xavi, Gerard Pique, Pedro, Sergio Busquets a Thiago Alcantara, a wnaeth i gyd dreulio cyfnod yn academi La Masia y clwb.