Tony Pulis
Mae Crystal Palace yn bwriadu penodi rheolwr newydd heddiw cyn ei gêm nesaf yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn yn erbyn Hull.
Fe wnaeth Crystal Palace siarad â Tony Pulis ychydig o ddyddiau wedi i gyn reolwr Crystal Palace Ian Holloway ymadael a’r clwb ym mis Hydref, ond ni wnaeth ei benodi oherwydd gofynion cyflog y Cymro.
Fodd bynnag, mae disgwyl i Pulis cael ei benodi yn rheolwr ar y clwb heddiw.
‘‘Rwyf yn mwynhau hyfforddi timau nad ydynt efallai mor llwyddiannus ag eraill, rwyf wedi bod yn rheolwr ym mhob cynghrair ac wedi mwynhau,’’ meddai Pulis.
Fe wnaeth Crystal Palace gysylltu â rheolwr Caerdydd Malky Mackay a chyn amddiffynnwr Chelsea Dan Petrescu fel olynwyr posibl i Holloway, ond fe wnaeth Mackay benderfynu aros yng Nghaerdydd ac ni wnaeth Petrescu gytuno â’r clwb ar delerau personol.