James Hook
Ers Cwpan y Byd yn 2011, dim ond un gêm mae’r maswr James Hook wedi dechrau i Gymru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Nos yfory mae Hook yn benderfynol o roi perfformiad da yn erbyn Tonga ar gyfer hawlio lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

‘‘Dyma fy ngêm olaf ar gyfer  gemau’r Hydref, byddai’n braf gorffen â pherfformiad da.  Rwyf eisiau chwarae dros Gymru hyd nes y dydd y byddai’n ymddeol.  Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle yma,’’ meddai James Hook.

Ni fydd Hook ar gael ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Awstralia ar ôl iddo fethu cael ei rhyddhau o’i glwb Ffrengig, Perpignan.

‘‘Mi fydd hi’n gêm gorfforol does dim amheuaeth am hynny.  Nid wyf yn difaru dim am symud i Ffrainc, mae fy ngêm wedi gwella ac yr wyf yn chwaraewr gwell oherwydd hynny,’’ ychwanegodd Hook.