Dylan Thomas
Mae manylion ynglŷn â Gŵyl Dylan Thomas 100 wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis heddiw.
Mae’r ŵyl, a fydd yn rhedeg o Dachwedd 23 hyd nes fis Tachwedd y flwyddyn nesaf yn bwriadu “dangos creadigrwydd ac ansawdd y celfyddydau yng Nghymru a’r naws hyfryd yn ei chymunedau gwahanol.”
Yn ystod y cyhoeddiad yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe cafwyd blas o’r digwyddiadau, gan gynnwys detholiad o Dylan Live – perfformiad dwyieithog sydd wedi ei leoli yn Efrog Newydd y 1950au.
Yn ogystal gwnaeth Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru ac un o Lysgenhadon Gŵyl Dylan Thomas 100, ddarllen ‘Do not go gentle’ gan Dylan Thomas.
Arddangos celfyddydau Cymru
Dywedodd Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas a Noddwr Anrhydeddus yr ŵyl: “Bydd Gŵyl Dylan Thomas 100 yn dangos creadigrwydd ac ansawdd y celfyddydau yng Nghymru a’r naws hyfryd yn ei chymunedau gwahanol, a bydd yn gyfle i genhedlaeth newydd o awduron, arlunwyr, cerddorion a pherfformwyr ddisgleirio.”
Ychwanegodd Huw Lewis: “Ein gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf oedd cynnal dathliad ystyrlon ac ysbrydoledig o fywyd, gwaith a dylanwad Dylan Thomas – sef rhaglen o weithgarwch diwylliannol ac academaidd a fyddai’n tanio brwdfrydedd pobl yng Nghymru a thu hwnt, yn dod ag ymwelwyr newydd i Gymru ac a fydd yn cael effaith sy’n deyrnged haeddiannol.
Cynhelir y digwyddiad cyntaf heno sef arddangosfa breifat o waith Syr Peter Blake ar y thema ‘Llareggub’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn bresennol.