Betsan Powys
Yn dilyn cyhoeddiad Radio Cymru heddiw eu bod yn newid amserlen yr orsaf, mae Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru wedi dweud y byddai ail orsaf radio genedlaethol yn “llesol” i Radio Cymru.

Fe gododd y pwnc yn ystod y Sgwrs, sef sgwrs genedlaethol er mwyn clywed barn y gwrandawyr am safon yr orsaf.

Roedd trafodaeth ynglŷn ag i ba raddau all technoleg newydd roi cyfle i Radio Cymru gynnig mwy o ddewis i’r gynulleidfa.

Dywedodd Betsan Powys: “Yn bersonol, dwi o’r farn y byddai cael ail orsaf genedlaethol Gymraeg – o ba gyfeiriad bynnag y dele honno, boed y BBC â rhan yn ei sefydlu a’i rhedeg hi ai peidio – yn llesol i Radio Cymru.

“Ond mae cyllideb BBC Cymru i ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg wedi crebachu’n sylweddol, ac er bod DAB (radio digidol) yn raddol gyrraedd mwy a mwy o gymunedau ac yn rhoi cyfle i ni rannu’r gwasanaeth bob hyn a hyn, dyw’r dechnoleg honno ddim yn cynnig ateb hawdd.”

Gwasanaeth newydd

Aeth Betsan Powys ymlaen i drafod y camau nesaf er mwyn cynnig dewis i gynulleidfa’r orsaf.

“Y cam cyntaf yw hyn: sef y bydd BBC Cymru yn lansio gwasanaeth digidol Cymraeg newydd sbon yn gynnar yn 2014. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth hwnnw, ‘Cymru Fyw’ yn darparu’r gorau o gynnwys digidol BBC Cymru.

“Yn ail. Cyn bo’n rhy hir fe fydd technoleg ‘Playlister’ yn caniatáu i chi droi at wefan Radio Cymru, gweld beth yw’r gân sy’n chwarae, ei nodi hi’n ddigidol a gwrando arni eto ar ddyfais sy’n eich siwtio chi.

“Yn drydydd, mae yna gymaint yn fwy dwi am wneud gyda Radio Cymru ar-lein – ar wefan yr orsaf neu drwy ap.  Mae mwy a mwy ohonoch yn dewis ‘gwrando eto’, dewis a dethol hoff glipiau ac yn lawrlwytho podlediadau o raglenni’r orsaf.

“Yn olaf, ond nid yn lleiaf, mae gwrando dros y we yn cynnig dewis. Gyda hynny mewn golwg, mi rydw i wedi dechrau archwilio a oes modd creu ‘jiwc-bocs’ cerddoriaeth Gymraeg ar y we – un porth i’r gerddoriaeth Gymraeg orau, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”

‘Angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd’

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod y newidiadau i Radio Cymru yn profi bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd yn ychwanegol at ddarpariaeth y BBC.

Dywed Cymdeithas yr Iaith bod penaethiaid y gorfforaeth wedi gwrthod sefydlu ail orsaf cyn i ymgynghoriad – “y Sgwrs Genedlaethol” – ddod i ben. Rhwng 1990 a 2002 fe wnaeth y BBC mwy na dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg sy’n darlledu yng Nghymru, medd y mudiad.

Dywedodd Greg Bevan: “Dyw’r newidiadau hyn ddim yn newid problem sylfaenol yr orsaf, sef all un orsaf ddim diwallu holl anghenion y gynulleidfa Gymraeg. Rydyn ni’n croesawu sylwadau personol Betsan Powys am ei chefnogaeth i’r ymgyrch dros ddarparwr ychwanegol.  Ond mae ei sylwadau hefyd yn tanlinellu diffyg uchelgais a gweledigaeth ehangach y BBC fel corfforaeth.

“Allwn ni ddim ymddiried yn y BBC i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg wedi iddi drin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i’r rhai Saesneg am ddegawdau. Byddwn ni felly yn ymgyrchu dros sefydlu darlledwr aml-gyfryngol ychwanegol newydd a fydd yn rhydd o geidwadaeth a diffyg uchelgais y BBC.”

Ychwanegodd: “Cawson ni ein synnu gan benderfyniad y BBC i gynnal adolygiad o un o’i gorsafoedd radio yn unig. Nid cyfrifoldeb un orsaf radio yw’r allbwn Cymraeg ond y gorfforaeth yn ei chyfanrwydd.

“Mae’r fenter ‘Cymru Fyw’ yn digwydd ar draws holl wledydd Prydain. Mae’n anodd croesawu penderfyniad i beidio ag eithrio’r Gymraeg o gael blog ychwanegol fel ‘rhanbarthau’ eraill Prydain.”