The Gentle Good
Bydd The Gentle Good yn rhyddhau EP newydd mewn pryd ar gyfer y Nadolig – ac fel anrheg fach i’w wrandawyr ffyddlon, bydd y caneuon yma ar gael am ddim!
Ar raglen C2 Lisa Gwilym neithiwr fe gyhoeddodd Gareth Bonello, i roi ei enw iawn, y byddai’r EP ar gael i’w lawrlwytho o wefan The Gentle Good erbyn y 1 Rhagfyr.
Mae Gareth wedi cael llawer ar ei blât yn ddiweddar – cafodd albwm diweddaraf The Gentle Good, ‘Y Bardd Anfarwol’, ei ryddhau ym mis Hydref.
Dylanwad plygain
Ond dywedodd fod albwm Nadoligaidd, o ganeuon plygain traddodiadol, wastad yn rhywbeth yr oedd o wedi eisiau gwneud.
“Mae pobl wastad yn gofyn amser Dolig i fi chwarae caneuon Nadoligaidd Cymraeg, a dwi wastad ddim yn siŵr pa rai i chwarae,” meddai Gareth ar raglen Lisa Gwilym.
“Dwi wedi chwarae caneuon plygain o’r blaen, a nes i feddwl bydde fe’n neis neud EP bach byr o ganeuon plygain ond jyst yn defnyddio’r gitâr – ar ôl holl gymhlethdod ‘Y Bardd Anfarwol’!
“Fel arfer mae pobl yn canu plygain yn ddigyfeiliant mewn eglwys. Ond dwi’n ffan mawr o gitarydd o America o’r enw John Fahey, wnaeth ‘neud albwm Nadoligaidd jyst efo offerynnau, felly’r un math o beth yw hwn.
“Roedd dad yn arfer rhoi casét plygain ymlaen yn y car amser Dolig, felly es i nôl i’r recordiadau yna a phigo’r rhai oni’n meddwl byddai’n gweithio ar y gitâr.”
India ar y gorwel
Ac mae yna reswm arall pam fod Gareth ar frys i ryddhau’r EP erbyn Rhagfyr 1 – y diwrnod wedyn mae’n hedfan i India ar gyfer antur gerddorol newydd.
“Dwi’n mynd efo Richard James,” meddai Gareth. “Cawson ni wahoddiad gan y Cyngor Prydeinig i chwarae cwpl o gigiau, yn Calcutta, Nagaland a Mumbai.”
Cyhoeddwyd hefyd ar y rhaglen fod y ‘swpyrgrŵp’ Endaf Gremlin, oedd yn hyrwyddo Maes B eleni, wedi penderfynu recordio sengl Nadoligaidd.
Meilyr Gwynedd o Sibrydion, Osian Williams o Candelas, Dafydd Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog, Rhys Aneurin o Yr Ods, a Dylan Hughes o Racehorses, fydd y pump fydd yn rhan o’r sengl.
Roedd hi hefyd yn rhaglen nodedig i’r gyflwynwraig Lisa Gwilym, wrth iddi gadarnhau mai hon fyddai ei darllediad byw olaf am y tro cyn iddi fynd ar gyfnod mamolaeth.
Gallwch wrando ar raglen C2 Lisa Gwilym neithiwr yn llawn wrth ddilyn y linc.