Mae cariad Cymro a gafodd ei garcharu yn Rwsia wedi dweud y byddai wedi ei “chael hi’n anodd treulio dau fis mewn cell am 23 awr y dydd.”

Roedd Anthony Perrett o Gasnewydd un o 30 o bobl, a chwech o Brydain, a gafodd eu harestio yn dilyn protest Greenpeace yn yr Arctig yn erbyn tyllu am olew.

Cafodd Anthony Perret, Alex Harries o Ddyfnaint a newyddiadurwr o Lundain, Keiron Bryan, eu rhyddhau ar fechnïaeth ddoe.

Wrth siarad am y tro cyntaf ers i’w phartner Anthony Perrett gael ei garcharu, dywedodd Zaharah Ally ei bod hi’n “hynod falch” fod Anthony  wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Meddai: “Mae ei fywyd yng Nghymru wedi canolbwyntio ar fod yn yr awyr agored felly byddai wedi ei chael hi’n anodd treulio dau fis mewn cell am 23 awr y dydd.

“Mae’r ansicrwydd ynghylch y system gyfreithiol yn Rwsia hefyd wedi bod yn aneglur iawn, ond rwy’n teimlo bod y ffaith eu bod nhw wedi cymeradwyo’i fechnïaeth yn gam yn y cyfeiriad cywir.”

Ychwanegodd ei bod hi wedi bod yn “ddau fis dwys ac emosiynol iawn”.

“Dydyn nhw heb gyhoeddi amodau ei fechnïaeth eto ac mae Anthony’n dal i wynebu cyhuddiadau difrifol.

“Rwy’n ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rwy wedi ei dderbyn gan y gymuned, ffrindiau, teulu, cydweithwyr a’r Aelodau Seneddol Jessica Morden a Paul Flynn.

“Mae’n bwysig bod pob ymdrech yn cael parhau i ddiogelu rhyddhau Anthony a phob un o’r Arctig 30.”