Bydd polisi cymhorthdal ​​ffioedd myfyrwyr yn costio £150 miliwn yn fwy na’r amcangyfrif pan gafodd ei gytuno, yn ôl adroddiad newydd.

Meddai Swyddfa Archwilio Cymru fod disgwyl bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £809 miliwn rhwng blynyddoedd ariannol 2012-13 i 2016-17.

Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, mae hynny 24%, neu £150 miliwn, yn fwy na’r £653 miliwn a gafodd ei amcangyfrif yn 2010. Mae’n debyg bod y costau uwch na’r disgwyl mae Prifysgolion yn ei godi yn rhannol i’w feio am hyn.

Ond aeth yr adroddiad yn ei flaen i ddweud bod cyllid sefydliadau addysg uwch Cymru yn gyffredinol iach ac fe ddaeth i’r casgliad bod polisi Llywodraeth Cymru  i ddelio a ffioedd dysgu cynyddol wedi cael ei wneud yn effeithiol.

Meddai Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, bod yr adroddiad yn codi cwestiynau pwysig am Lywodraeth Cymru.

“Yn arbennig, mae’n gofyn pa mor ddigonol yw’r trefniadau ar gyfer prosesu ceisiadau myfyrwyr am gyllid, er mwyn ei diogelu yn erbyn y perygl o dwyll,” meddai.

“Mae’n amlwg bod angen gwneud rhagor o waith i fonitro ac adolygu effaith y polisi mewn mwy o fanylder, ac i fynd i’r afael â’r cwestiwn o gydraddoldeb yn y trefniadau ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.”

Ond, meddai Darren Millar, sy’n AC ar ran y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, bod canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol am sefyllfa ariannol y sector addysg uwch yn “galonogol”.

‘Fforddiadwy’

Dywedodd Gweinidog Addysg llywodraeth Cymru, Huw Lewis, bod yr “adroddiad yn cyfiawnhau ein safiad ar gyllido prifysgolion Cymru a rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr o Gymru.”

Meddai:  “Mae’r dystiolaeth yn cadarnhau bod ein polisi ar ffioedd dysgu yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy am oes y Llywodraeth hon a thu hwnt.

“Mae’r Swyddfa Archwilio hefyd wedi cadarnhau y bydd sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn parhau i elwa ar y lefelau uwch o incwm o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed gennym ac, ar yr un pryd, y bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn crynhoi llai o ddyledion na’u cyd-fyfyrwyr yn Lloegr.”

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a’i hargymhellion maes o law.

‘Cywilyddus’

Ond mae Aled Roberts, AC  Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi dweud bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyllid addysg uwch yn “embaras” i Lywodraeth Cymru

Meddai: “Mae’r adroddiad hwn yn amlygu rhai o’r methiannau mawr yn system gyllido addysg uwch Llywodraeth Cymru.

“Yn gynharach yr wythnos hon bu’r Gweinidog Addysg, a’i ragflaenydd, yn darlithio yn siambr y Cynulliad ar sut y mae’r system bresennol yn costio llai na beth gafodd ei amcangyfrif yn y lle gyntaf. Er hynny,  mae’r adroddiad hwn yn dangos pa mor anghywir oedden nhw yn 2010 ac yn parhau i fod heddiw.”

‘Ddim yn gynaliadwy’

Mewn ymateb i’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas:

“Mae’r adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cadarnhau’r hyn y bu Plaid Cymru yn ei ddweud ers peth amser – nad yw polisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy yn y tymor hir, a bod ei gost nas rhagwelwyd yn cyfyngu ar nifer y myfyrwyr o Gymru all astudio ym mhrifysgolion Cymru.

“Does dim modd newid y polisi hwn o leiaf cyn 2017, ac yr ydym  wastad wedi datgan ein cefnogaeth i’r polisi am dymor y Cynulliad hwn, ond mae’n bwysig fod polisi cynaliadwy yn dod yn ei le, a hwnnw yn bolisi sy’n cael ei gefnogi gan y mwyafrif. Dyna pam ei bod yn bwysig fod adolygiad presennol y Gweinidog Addysg o gyllido AU yn adrodd yn ôl cyn etholiad cyffredinol Cymru, fel y gall y llywodraeth nesaf symud ymlaen gyda pholisi cynaliadwy ac fel y bydd myfyrwyr a phleidleiswyr yn gwybod pa ddewisiadau maent yn wneud.

“Mae myfyrwyr rhan amser hefyd yn cael tro gwael dan y drefn bresennol, ac y mae hynny’n rhywbeth y bydd angen i’r adolygiad fynd i’r afael ag ef.”

Polisi ‘wedi methu’

Meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros addysg, Angela Burns AM,  bod yr adroddiad yn codi cwestiynau am “farn a chymhwysedd”  Gweinidogion Addysg Llywodraeth Cymru.

Meddai: “Mae cymhorthdal ​​ffioedd dysgu Llafur wedi methu’n gyfan gwbl. Mae wedi methu ag ehangu mynediad i addysg uwch, wedi amddifadu prifysgolion Cymru o gyllid hanfodol ac wedi ei gwneud hi’n fwy anodd i sector addysg uwch Gymru i gystadlu yn fyd-eang.”