David Jones
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud bod gan Abertawe’r cyfle i ddisgleirio fel canolfan ddiwylliannol er gwaetha’i chais aflwyddiannus i gael ei phenodi’n  Ddinas Diwylliant y DU.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, heddiw mai Hull fydd Dinas Diwylliant y DU 2017.

Roedd enwogion fel rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Michael Laudrup ,a’r seren Hollywood Michael Sheen wedi cefnogi cais y ddinas.

Ond mynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones y dylai’r rhanbarth fod yn falch o’u cais a manteisio ar eu hymdrechion.

‘Manteisio ar y brwdfrydedd’

Meddai David Jones: “Er bod y cyhoeddiad heddiw yn newyddion siomedig i’r rhai sydd wedi cefnogi cais Bae Abertawe, dylent fod yn falch o bopeth y maent wedi’i gyflawni.

“Rhaid i ni nawr fanteisio ar y brwdfrydedd a’r ymrwymiad mae’r ymgyrch hon wedi ysgogi. Gyda blwyddyn gyfan o ddathliadau wedi ei gynllunio yn 2014 i nodi canmlwyddiant geni mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas, bydd y rhanbarth dal yn cael y cyfle i ddisgleirio fel pwerdy diwylliannol yng Nghymru.”

Fe wnaeth y Llywodraeth greu teitl Dinas Diwylliant y DU mewn ymgais i ailadrodd y llwyddiant gafodd Lerpwl ar ôl cael ei phenodi’n Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008.

Roedd disgwyl i Abertawe gipio’r teitl heddiw all fod wedi bod gwerth oddeutu £70 miliwn i economi’r ardal.

‘Siom’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, David Phillips, bod pawb oedd yn ymwneud â’r cais yn “siomedig” gyda’r canlyniad.

“Rydym yn llongyfarch Hull, ond rwy’n siomedig yn enwedig gan fod cannoedd o filoedd o bobl wedi cefnogi’n cais,” meddai wrth BBC Radio Wales.

Wrth sôn am y cyhoeddiad bod Hull wedi ennill y teitl Dinas Diwylliant 2017, dywedodd Suzy Davies AC, Llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru dros Dreftadaeth: “Cafodd ansawdd cais Bae Abertawe ar gyfer Dinas Diwylliant y DU ei gydnabod drwy fod ar y rhestr fer fel un o’r pedwar uchaf.

“Mae’r ymgyrch hon wedi dod â phobl y Bae at ei gilydd gan arddangos amrywiaeth ddiwylliannol Abertawe a’r cymunedau cyfagos.

“Rydym yn siomedig, ond mae’r ysbryd creadigol, a wnaeth cais Bae Abertawe’n unigryw, yn dal i fod yno a bydd yn parhau i gyfrannu at ddyfodol diwylliannol cyfoethog yr ardal.”

‘Bae Abertawe ar y map’

Mae Aelod Cynulliad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru, Peter Black, wedi mynegi ei siom ond mae wedi canmol y rhai wnaeth roi’r cais at ei gilydd.

“Roedd y cais i fod yn Ddinas Diwylliant yn ymdrech trawiadol llawn dychymyg,” meddai Peter Black.

“Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae’r cais wedi rhoi Bae Abertawe ar y map i lawer o bobl o gwmpas y DU, o’r ffordd yr oedd yn arddangos diwylliant cyfoethog ac amrywiol sydd ar gael yn y rhanbarth ac o’r modd y mae wedi profi y gall Bae Abertawe gystadlu ar lwyfan byd-eang.”