Garry Monk
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth wedi lladrad yn nhŷ seren tîm pêl-droed Abertawe, Garry Monk.

Digwyddodd y lladrad ar ffordd y Gwŷr yn ardal Cila yn Abertawe rhywbryd rhwng 9yb bore Gwener a 2:45yh prynhawn dydd Llun.

Meddai llefarydd ar ran yr heddlu bod nifer fawr o eiddo wedi eu dwyn o gartref cyn gapten y clwb.

Ymhlith yr eitemau sydd wedi’u dwyn mae gemwaith, cyfrifiaduron ac offer cyfrifiadurol, ffonau symudol a bag tîm Abertawe gyda’r rhif 16 a’i enw arno.

Mae Heddlu De Cymru’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw.