Dartford 1–5 Wrecsam

Sgoriodd Wrecsam bedair gôl mewn ugain munud wrth guro Dartford yn Uwch Gynghrair Skrill nos Fawrth.

Er i’r tîm cartref fynd ar blaen yn gynnar yn Princes Park fe darodd y Cymry yn ôl gyda phedair gôl cyn yr egwyl, cyn coroni’r perfformiad gyda phumed yn yr ail hanner.

Ychydig dros ddau funud oedd wedi mynd pan darodd Lee Burns gefn rhwyd Wrecsam, ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny.

Roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru’n gyfartal wedi chwarter awr diolch i gôl Bret Ormerod, ac yna ar y blaen wyth munud yn ddiweddarach yn dilyn cynnig Joe Clarke.

Sgoriodd Robert Ogleby ac Ormerod gyda’i ail o fewn tri munud i’w gilydd wedi hynny ac roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel ddeg munud cyn yr egwyl.

Bu rhaid aros tan chwarter awr o ddiwedd y gêm tan i Johnny Hunt sgorio’r bumed i gwblhau noson dda o waith i’r Dreigiau.

Mae’r fuddugoliaeth yn eu codi un lle i’r pymthegfed safle yn nhabl y Gyngres.

.

Dartford

Tîm: Forecast, Mitchell-King (Sterling 54′), Fry (Cornhill 54′), Clark, Burns, Martin, Woodyard (Harris 54′), Collier, Noble, Birchall, Godden

Gôl: Burns 3’

Cardiau Melyn: Fry 19, Woodyard 44’

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Wright, Ashton, Artell, Harris, Hunt, Carrington, Clarke, Keates (Cieslewicz 68′), Ogleby (Morrell 81′), Ormerod (Bailey-Jones 75′)

Goliau: Ormerod 15’, 34’, Clarke 23’, Ogleby 31’, Hunt 76’

.

Torf: 816