Casnewydd 1–0 Braintree
Mae Casnewydd yn ail rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Braintree ar Rodney Parade nos Fawrth.
Cyfartal oedd hi yn Essex wythnos a hanner yn ôl ond roedd gôl Robbie Willmott yn ddigon i Gasnewydd ennill y frwydr rownd gyntaf ar yr ail gynnig.
Cafodd Matt Paine gyfle euraidd i roi’r ymwelwyr ar y blaen ond Casnewydd yn hytrach a gafodd y gôl agoriadol yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Ildiodd Ryan Peters gic rydd ar ochr y cwrt cosbi a chrymanodd Willmott hi’n gelfydd i’r gornel uchaf.
Roedd angen arbediad da gan Nick Hamann i atal Adam Chapman rhag dyblu’r fantais wedi’r egwyl, ond roedd un gôl yn ddigon i’r Cymry yn y diwedd.
Bydd tîm Justin Edinburgh yn herio Kidderminster yn yr ail rownd ar y seithfed o Ragfyr yn dilyn gemau cynghrair pwysig yn erbyn Cheltenham, Rhydychen a Chesterfield.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Jackson, Oshilaja, Crow, Yakubu, Naylor (Flynn 85′), Chapman, Willmott, Jolley (Minshull 69′), Washington, Worley
Gôl: Willmott 45’
Cerdyn Melyn: Crow 90’
.
Braintree
Tîm: Hamann, Habergham, Peters, Isaac, Wells, Paine, Mulley (Cox 88′), Davis, Marks, Holman (Quinton 83′), Daley (Enver-Marum 68′)
Cardiau Melyn: Isaac 36’, Peters 45’
.
Torf: 1,406