Sebastian Vettel
Adroddiad o’r Grand Prix yn Austin, Tecsas, dros y penwythnos gan ohebydd Fformiwla 1 Golwg360, Phil Kynaston….

Parhaodd Sebastian Vettel i dorri recordiau yn Grand Prix yr Unol Daleithiau, gan ennill ei wythfed ras yn olynol ar y trac yn Austin, Tecsas – y gyrrwr cyntaf i wneud hynny mewn un tymor.

Ag yntau eisoes wedi selio’r Bencampwriaeth ychydig wythnosau yn ôl, dim ond y recordiau personol sydd ganddo ar ôl i’w herlid y tymor hwn, ac fe seliodd un arall o’r rheiny mewn steil.

Camgymeriad rhagbrawf i Webber …

Y gyrwyr a serennodd yn y rhagbrawf oedd Valtteri Bottas a Heikki Kovalainen. Cychwynnodd Kovalainen ei ras gyntaf mewn blwyddyn yn wythfed, tra llwyddodd Bottas i roi ei Williams yn nawfed ar y grid.

Roedd hi’n edrych fel mai Webber fyddai’n cychwyn yn gyntaf, tan i gamgymeriad yn y sector olaf roi’r amser cyflymaf i’w gyd-yrrwr Vettel. Ond roedd y ffaith fod Webber saith degfed o eiliad o flaen Romain Grosjean yn y trydydd safle yn dangos y fantais oedd gan Red Bull.

… a phethau’n gwaethygu

Ac o gychwyn y ras, cymerodd Grosjean a Lewis Hamilton fantais o Webber i’w wthio lawr i bedwerydd. Gyda’r trac  o leiaf 11 metr mewn lled ym mhobman, dydi hwn ddim yn ras lle y disgwylir i geir daro mewn i’w gilydd ar rannau syth.

Ond dyna ddigwyddodd rhwng Pastor Maldonado yn y Williams a Force India Adrian Sutil. Troellodd Sutil ar draws y trac a tharo’r wal i ddod a’r car diogelwch allan.

Ar ôl i’r difrod gael ei glirio a’r car diogelwch adael y trac, daeth Max Chilton i mewn ar gyfer ei gosb gyrru trwy’r pits am flocio amryw o geir yn ystod y rhagbrawf. Roedd hwn i’w weld yn gosb decach na chosb pum safle ar y grid, gan gofio nad ydi’r Marrusia’n ddigon cyflym i gael pum car y tu ôl iddo ar y grid.

Yn y ras gyntaf ers 2011 heb Kimi Raikkonen ynddo, Lewis Hamilton oedd yn darparu’r negeseuon radio diddorol, yn gyntaf yn gofyn i’w dîm adael llonydd iddo gael ffocysu, cyn cwyno’n ddiweddarach nad oedd o’n cael digon o wybodaeth ganddynt! Ar lap 13 fe lwyddodd Mark Webber i ail-gipio’r trydydd safle oddi wrtho.

Heb Raikkonen yn y ras roedd Grosjean yn cael y cyfle i wir brofi y byddai o yn gallu camu i fyny fel arweinydd y tîm, ac yn sicr fe wnaeth o hynny wrth gadw’i afael ar yr ail safle a gwrthsefyll unrhyw bwysau.

Canlyniadau

Sebastian Vettel gymerodd y fuddugoliaeth, gan greu’r record newydd fel y gyrrwr cyntaf i ennill wyth ras yn olynol mewn un tymor. Grosjean oedd yn ail a Webber yn drydydd.

Cymerodd Hamilton drydydd yn y bencampwriaeth wrth orffen yn bedwerydd, gyda phumed safle Alonso yn sicrhau ail iddo yn y bencampwriaeth.

Yn y ras gyntaf ers y cyhoeddiad ei fod yn cael ei ollwng gan McLaren, fe orffennodd Sergio Perez yn seithfed o flaen ei gyd-yrrwr Jenson Button, ddaeth yn ddegfed. Bydd yn gobeithio fod perfformiadau fel hyn (yn erbyn cyn-bencampwr y byd) yn sicrhau sedd gystadleuol iddo rywle arall ar gyfer tymor nesaf.

Ar ôl nifer o rasys da wrth chwilio am sedd newydd, ras wan oedd un cyntaf Felipe Massa ers arwyddo gyda Williams, wrth orffen yn 13eg. Cafodd y dyn mae o’n cymryd ei le, Pastor Maldonado, ras sâl hefyd ar ôl ei drawiad gyda Sutil gan orffen yn 17eg.

Wedi ffraeo gyda’i dîm, yn gyhoeddus o leiaf, mae o’n eithaf sicr bod ganddo sedd yn rywle ar gyfer 2014. Ar ôl i’r tîm sgorio dim ond un pwynt hyd yma, dangosodd Bottas pam fod gymaint o ffydd wedi ei ddangos ynddo wrth orffen yn wythfed ar gyfer pedwar pwynt gwerthfawr.

Bydd ras olaf 2013 yn Sao Paolo, Brasil, y penwythnos yma.