Llwyddodd tîm pêl-droed dan-19 Cymru gyrraedd Rownd Elit Pencampwriaeth Dan-19 Ewrop o drwch blewyn ddoe, diolch i gôl yn y funud olaf gan Chike Kandi.
Roedd hi’n ymddangos yn fuddugoliaeth ddigon cyfforddus o 6-0 yn erbyn Moldova yn y diwedd, ond nid felly oedd hi – roedd yn rhaid i Gymru ennill o chwe gôl o leiaf i gael cyfle o gyrraedd y rownd nesaf.
A dyna’n union wnaethon nhw, gydag ergyd hwyr gan yr eilydd Kandi o Chelsea, yn ogystal â cholled yr Iseldiroedd o 2-1 yn erbyn Georgia, yn golygu fod tîm Geraint Williams yn mynd drwyddo ar goliau wedi’u sgorio yn unig.
Roedd Cymru wedi adeiladu mantais gref dros Foldova gyda goliau gan Owain Jones, Abdi Noor, Tom O’Sullivan, Bradley Reid a chic o’r smotyn gan y capten Declan John.
Ond gydag munud y unig i fynd rhwydodd Kandi y gôl hollbwysig, gyda Chymru’n gorffen y grŵp gyda phedwar pwynt a gwahaniaeth goliau o +2, yn union yr un peth a’r Iseldiroedd.
Ond roedd y saith gôl a sgoriodd Cymru drwy gydol y grŵp, o’i gymharu ag ond pedair i’r Iseldiroedd, yn ddigon i’w gweld nhw’n saff i’r rownd nesaf y tu ôl i Georgia, ar y brig gyda naw.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru bellach wedi pasio’r Rownd Ragbrofol ac wedi cyrraedd y Rownd Elit, ble bydden nhw mewn grŵp arall o bedwar tîm.
Bydd enillwyr y saith grŵp yn y Rownd Elit wedyn yn mynd ymlaen i’r Bencampwriaeth Derfynol, fydd yn cael eu cynnal yn Hwngari yn haf 2014.
Roedd hi’n edrych yn ddu iawn ar obeithion Cymru wedi iddyn nhw golli 5-1 i Georgia yn gêm agoriadol y grŵp, gyda’r Iseldiroedd yn trechu Moldova 3-0.
Ond llwyddodd Cymru i frwydro i gêm gyfartal 0-0 yn erbyn yr Iseldiroedd yn yr ail gêm, cyn chwalu Moldova i selio’u lle yn y rownd nesaf.
Bydd Cymru’n darganfod pwy y bydden nhw’n wynebu yn y Rownd Elit pan gaiff yr enwau eu tynnu allan o’r het ar y 28 Tachwedd.
Mae eu rheolwr Geraint Williams hefyd yn rheolwr ar dîm dan-21 Cymru.
Dyma fideo o’r tîm yn disgwyl i glywed canlyniad terfynol gêm Georgia a’r Iseldiroedd, cyn dathlu ar ôl sylwi eu bod nhw drwyddo:
Tîm Cymru yn erbyn Moldova:
Michael Crowe (Ipswich), Bradley Wickham (Caerdydd), Declan John – capt (Caerdydd), Rob Evans (Wrecsam), Josh Yorwerth (Caerdydd), Josh Sheehan (Abertawe), Tom O’Sullivan (Caerdydd), George Williams (Fulham), Dominic Smith (Amwythig), Abdi Noor (Caerdydd), Owain Jones (Abertawe)
Eilyddion:
Billy O’Brien (Man City), Keston Davies (Abertawe), Jordan Evans (Fulham), Bradley Reid (Wrecsam), Curtis Strong (Stoke), Declan Weeks (Wolves), Chike Kandi (Chelsea)
Goliau: Owain Jones 13’, Abdi Noor 32’, Tom O’Sullivan 41’, Bradley Reid 66’, Declan John (c.o.s) 71’, Chike Kandi 89’