Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dod o hyd i ddyn 46 oed o Landudno oedd wedi bod ar goll am dridiau.

Dywed yr heddlu fod David Richard Owen yn ddiogel.

Nid oedd ei deulu na’i ffrindiau wedi clywed ganddo ers dydd Sadwrn.