Stadiwm y Mileniwm
Fe fydd pob aelod o dîm rygbi cenedlaethol Cymru yn gwisgo crysau efo symbol piws o wyneb yn gwenu ar y llawes yn ystod y gêm yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm y prynhawn yma.

Mae nhw’n gwneud hyn i ddangos eu cefnogaeth i’r cyn-gapten Mathew Rees sy’n derbyn triniaeth am ganser y ceilliau.

Mae Mathew Rees yn cael ei adnabod fel ‘Smiler’ ac yn debygol o fod yn methu chwarae rygbi am gyfnod go hir oherwydd y driniaeth.

Gethin Jenkins a Corey Allen

Bydd Gethin Jenkins yn ennill ei ganfed cap dros ei wlad y prynhawn yma ac mae yna un neu ddau o newidiadu yn y tîm fydd yn wynebu’r Ariannin.

Chwarae dros Gymru am y tro cyntaf fydd Corey Allen ar y llaw arall ac mae Warren Gatland wedi penderfynu hefyd y bydd Dan Biggar, Justin Tipuric a Rhodri Jones ar y cae ar gychwyn y gêm.

Bydd y gêm yn cychwyn am 2.30 y pryhawn.