Casnewydd 2–0 Hartlepool
Cododd Casnewydd i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran nos Wener gyda buddugoliaeth dros Hartlepool ar Rodney Parade.
Rhoddodd Harry Worley’r Cymry ar y blaen yn gynnar yn y gêm cyn i Conor Washington ddyblu’r fantais yn yr ail hanner.
Saith munud yn unig oedd ar y cloc pan beniodd Worley groesiad Robbie Willmott heibio i Scott Flinders yn gôl yr ymwelwyr.
Yna, sicrhaodd Washington y fuddugoliaeth i dîm Justin Edinburgh toc wedi’r awr yn dilyn gwaith creu Christian Jolley.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r pedwerydd safle yn nhabl yr Ail Adran, ddau bwynt yn unig o’r brig.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Jackson (Jones 78′), Oshilaja, Worley, Naylor, Yakubu, Willmott, Chapman, Washington, Crow, Jolley (Flynn 66′)
Goliau: Worley 7’, Washington 64’
.
Hartlepool
Tîm: Flinders, Austin, Duckworth, Dolan, Baldwin, Burgess, Monkhouse, Walton (Walker 87′), James (Franks 70′), Poole, Compton (Sweeney 81′)
.
Torf: 3,094