Gweilch 13–21 Gleision Caerdydd
Y Gleision aeth â hi yn y frwydr rhwng y ddau dîm o Gymru yn y Cwpan LV nos Wener.
Dechreuodd yr ymwelwyr o Gaerdydd yn dda ar y Liberty cyn i’r Gweilch daro’n ôl i fod ar y blaen ar yr egwyl, ond sgoriodd y Gleision ddeg pwynt yn y deg munud olaf i gipio’r fuddugoliaeth.
Rhoddodd Simon Humberstone y Gleision ar y blaen gyda dwy gic gosb yn y chwarter awr cyntaf cyn i’r clo, James Down, ymestyn mantais yr ymwelwyr gyda chais cyntaf y gêm.
Cadwodd Matthew Morgan y Gweilch yn y gêm gyda dwy gic gosb a’r tîm cartref oedd ar y blaen ar hanner amser diolch i gais hwyr Jonathan Spratt a throsiad Morgan.
13-11 ar yr egwyl ac felly yr arhosodd hi am ran helaeth o’r ail hanner hefyd. Yna, deffrodd y Gleision unwaith eto yn y deg munud olaf gan ennill y gêm gyda chais yr eilydd fewnwr, Lewis Jones, a throsiad a gôl adlam Humberstone.
Mae’r ddau dîm yn dychwelyd i’r Pro12 yr wythnos nesaf gyda’r Gleision yn croesawu Munster a’r Gweilch yn herio Zebre ar y Liberty.
.
Gweilch
Cais: Jonathan Spratt 39’
Trosiad: Matthew Morgan 39’
Ciciau Cosb: Matthew Morgan 21’, 29’
.
Gleision
Ceisiau: James Down 24’, Lewis Jones 72’
Trosiad: Simon Humberstone 72’
Ciciau Cosb: Simon Humbersone 8’, 16’
Gôl Adlam: Simon Humberstone 75’
Cerdyn Melyn: Robin Copeland 79’