Yfory fe fydd y Dreigiau yn croesawu’r London Wasps i Rodney Parade ar gyfer cystadleuaeth y Cwpan LV.
Fe fydd Cory Hill yn dechrau am y tro cyntaf i’r Dreigiau yfory.
‘‘Mae’n gyfle arbennig i mi, rwy’n obeithiol i greu argraff. Yn ogystal a chwarae mae’n gyfle da i ddysgu oddi wrth Rob Sidoli, rwy’n siwr y byddaf yn dysgu nifer o bethau ganddo ef yn ystod y gêm,’’ meddai Hill.
Mae rheolwr y Dreigiau wedi gwneud un ar ddeg newid yn gyfangwbl, fe fydd y maswr Steffan Jones yn gwneud ei ddechreuad gyntaf y tymor. Yn ymuno â Steffan Jones yn yr olwyr, fe fydd Rhys Jones yn safle’r cefnwr a Ashton Hewitt a Matthew Pewtner fydd yr asgellwyr.
Robert Sidoli fydd yn safle’r clo fydd yn arwain y Dreigiau gyda Cory Hill yn ffurfio’r ail reng. Phil Price, Hugh Gustafson a Nathan Buck fydd yr uned yn y reng blaen. Netani Talei a James Benjamin fydd y blaenasgellwyr ac yn safle’r wythwr fe fydd Ieuan Jones.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Hallam Amos, Ashton Hewitt, Tyler Morgan, Ashley Smith, Matthew Pewtner, Steffan Jones a Jonathan Evans.
Blaenwyr – Phil Price, Hugh Gustafson, Nathan Buck, Cory Hill, Robert Sidoli (Capten), Netani Talei, James Benjamin a Ieuan Jones.
Eilyddion – Elliot Dee, Aaron Coundley, Dan Way, Joe Davies, Scott Matthews, Luc Jones, Dorian Jones a Will Harries.