Proffil y Clwb
Enw: Clwb Pêl-droed Y Felinheli
Llysenw: ‘Felin’
Cae: Cae Seilo
Lliwiau: Coch
Rheolwr y Tîm: Euron Davies
Prif Sgoriwr: Gruff John
Yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus i Dîm Hoci Merched Caernarfon y penwythnos diwethaf, dydi Tîm yr Wythnos ddim yn teithio’n rhy bell yr wythnos hon.
Ond mae newid campau ar fyd, wrth i ni droi yn ôl at bêl-droedwyr y Gogledd, a Chlwb Pêl-droed Y Felinheli.
Tîm yn Adran Un Cynghrair Caernarfon a’r Cyffiniau ydi ‘Felin’, sydd wedi cael tymor digon cryf hyd yn hyn gan ennill pedair o’u pum gêm.
Nhw, gyda llaw, oedd enillwyr Cwpan Iau Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru’r llynedd.
Ar hyn o bryd maen nhw’n bumed yn y Gynghrair – ond wedi chwarae tair gêm yn llai nac Ail Dîm Llanberis sydd wyth pwynt o’u blaenau ar y brig, ac felly o fewn cyrraedd i’r brig petai nhw’n ennill y gemau hynny.
Colli i Lanberis
Colli wnaethon nhw i Lanberis nol ym mis Medi o 2-1, ar ôl ennill eu tair gêm gyntaf yn y Gynghrair.
Ond ers hynny maen nhw wedi ennill pedair yn olynol, tair ohonynt yn gemau cwpan a’r gêm ddiwethaf yn fuddugoliaeth swmpus o 6-2 yn erbyn Nefyn.
Roedd Felin 6-0 ar y blaen erbyn hanner amser yn y gêm honno, gyda’r prif sgoriwr Gruff John yn rhwydo hat-tric i gyrraedd wyth gôl am y tymor mewn dim ond saith gêm.
Pwllheli
Ac fe fydden nhw’n gobeithio parhau â’r rhediad da’r penwythnos yma wrth iddyn nhw deithio i herio Pwllheli. Mae’r gwrthwynebwyr yn ail o waelod y tabl gydag un fuddugoliaeth o’u chwe gêm yn y gynghrair hyd yma yn y tymor.
Bydd Golwg360 yn adrodd ar y gêm dros y penwythnos, ac yn y cyfamser os ydych chi am i’ch tîm chi gael sylw fel Tîm yr Wythnos, cysylltwch â ni ar y Trydar gyda’r hashnod #timyrwythnos neu e-bostiwch ni.
Carfan Y Felinheli
Golwyr: Mark Wyn, Rhys Edwards
Amddiffynwyr: James Hatton, Dylan Owen, Ifan Dafydd, Ifan Emyr, Matthew Hughes, Sion Griffiths, Martin Hughes
Canol cae: William Portillo, Aled Griffith, Aled Hughes, Celt Iwan, Darren Ellis, Gwion Tegid, Sion Parry, Tom Davies
Ymosodwyr: Daniel Hughes, Carwyn Dafydd, Gruff John, Iwan Owen