Mae Cymru wedi ennill yr hawl i gynnal Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd yng Nghaerdydd yn 2016.
Bydd y bencampwriaeth a gynhelir ym mis Mawrth yn agored i redwyr gorau’r byd ac amaturiaid.

‘‘Mae’r digwyddiad yn mynd i fod yn enfawr i Gaerdydd a Chymru, ac mae’r holl waith da sydd wedi digwydd gyda Hanner Marathon Caerdydd dros y blynyddoedd wedi talu’r ffordd,’’ meddai Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cyrmu, Matt Newman.

Dyma fydd un o’r digwyddiadau mwyaf ym myd chwaraeon i’w gynnal yng Nghymru.  Bydd nifer o’r rhedwyr yn defnyddio y ras wrth baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2016.

Dywedodd Steve Jones, sy’n gyn ennillydd record y byd yn y Marathon a’r Hanner Marathon ei fod yn edrych ymlaen i weld rhedwyr gorau’r byd yn cystadlu yng Nghaerdydd.  Dyma fydd y pedwerydd tro i’r ras gael ei chynnal ym Mhrydain.