Cory Allen
Mae canolwr y Gleision Cory Allen wedi arwyddo cytundeb newydd i chwarae am dair blynedd gyda’r Gleision.
Eisoes mae Allen wedi cynrychioli Cymru dan 18 oed, dan 20 oed ac yn nhîm saith bob ochr Cymru ac ers hynny wedi ymddangos ddeg o weithiau i’r rhanbarth.
Yfory fe fydd yn ennill ei gap cyntaf i Gymru. Tiriodd ei gais cyntaf yn y Pro12 yn erbyn Leinster y tymor hwn.
‘‘Rwyf yn enedigol o Gaerdydd, ac wrth fy modd yn chwarae rygbi yma. Rwyf yn hynod o falch o allu arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gleision. Rwyf wir yn teimlo ei fod yn amser cyffrous i fod yn rhan o dîm y Gleision. Mae gennym olwyr ifanc yma, ac ymhen blynyddoedd rwy’n siwr y gallwn ni gystadlu gyda’r goreuon,’’ meddai Allen.
‘‘Rwyf yn ifanc ac yn hollol ymwybodol bod gennyf lawer i’w ddysgu. Mae Phil Davies (Rheolwr y Gleision) ac hyfforddwyr y Gleision wedi fy nghynorthwyo ac wedi dangos ffydd ynof, rwyf yn teimlo mai yma yw’r lle perffaith i ddatblygu fy ngêm.”