Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod y rheolwr Chris Coleman wedi arwyddo cytundeb newydd am ddwy flynedd arall.

Daeth y cyhoeddiad yn y gynhadledd i’r wasg amser cinio heddiw, gyda Coleman, Prif Weithredwr y Gymdeithas Jonathan Ford a’r Llywydd Trefor Lloyd Hughes yn bresennol.

Bydd y cytundeb yn ymestyn hyd nes diwedd ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 yn Ffrainc, a dywedodd Coleman ei fod yn hynod o falch  o allu parhau yn reolwr.

Mae Cymru’n herio’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory am 6yh.

Swydd orau yn y byd

Roedd sôn yn ddiweddar fod Crystal Palace ar ôl Coleman fel rheolwr i gymryd lle Ian Holloway, ac roedd awgrym fod y Gymdeithas Bêl-droed yn ailystyried y cynnig gwreiddiol o gytundeb newydd ar ôl canlyniadau siomedig i Gymru ym mis Medi.

Ond yn y ddwy gêm ddiwethaf cafodd Coleman fuddugoliaeth dros Facedonia a gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg.

“Dw i wastad wedi dweud mai hon yw’r swydd orau yn y byd cyn belled a dw i yn y cwestiwn,” meddai Coleman.

“Mae ‘na lawer o sïon wedi bod amdana i dros yr wythnosau diwethaf ond hon oedd y swydd roeddwn i eisiau. Mae gennym ni fusnes i’w orffen.

“Roedd ‘na bethau roeddwn i angen eu trafod gyda’r Gymdeithas, a’r Gymdeithas gyda fi ac rydym ni wedi datrys y rheiny bellach.

“Dw i’n edrych ymlaen at arwain fy ngwlad i ymgyrch ragbrofol Pencampwriaethau Ewrop. Mae’r gwaith yn dechrau yfory yn erbyn y Ffindir.”

Cyfnod o sefydlogrwydd

“Bydd y cytundeb newydd yn cynnig cyfnod o sefydlogrwydd a gall Chris adeiladu ar ei strategaeth gyda’r garfan bresennol,” meddai Jonathan Ford.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag ef wrth i ni geisio cyrraedd y nod o gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth.”

Cafwyd croeso hefyd i’r cytundeb newydd gan y Llywydd Trefor Lloyd Hughes.

“Mae Chris wedi gwneud cyfraniad enfawr dros y ddwy flynedd diwethaf, gan etifeddu’r swydd mewn amgylchiadau anodd i bawb,” meddai Hughes.

“Mae wedi bod yn fwy na Rheolwr Cenedlaethol o ran y gwaith mae wedi’i wneud fel llysgennad i bêl-droed a Chymru.”