Gyda gemau’r Hydref eisoes wedi dechrau, bydd Pod Rygbi Golwg360 yn edrych nôl ar ornest Cymru yn erbyn De Affrig ddydd Sadwrn diwethaf, a rhoi rhagolwg o’r gêm yr erbyn yr Ariannin y penwythnos yma.

Yr wythnos yma ein gohebydd chwaraeon, Rhys Jones, a dau o flogwyr rygbi Golwg360, Owain Gwynedd ac Illtud Dafydd, fydd yn bwrw golwg craff dros ddewisiadau Gatland ar gyfer y gêm a’r her sy’n wynebu Cymru.

Bydd y tri’n trafod lle Rhodri Jones a Cory Allen yn y tîm, yn ogystal â dewis Dan Biggar o flaen Rhys Priestland, a doniau Justin Tipuric.

O dan sylw hefyd fydd yr her sy’n wynebu rhanbarthau Cymru wrth iddyn nhw geisio atal eu chwaraewyr gorau rhag gadael am Ffrainc – a pham yn union mae timoedd hemisffer y De mor dda?