Cory Allen (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Gyda’r dewis cyntaf o ganolwyr Cymru, Jamie Robets a Jonathan Davies ar y rhestr hir o anafiadau, mae rheolwr Cymru yn dweud bod gan ganolwr Gleision Caerdydd, Cory Allen, gyfle i wneud ei farc.

Ac mae’r Gleision wedi cyhoeddi bod Allen wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r rhanbarth tan 2017.

‘‘R’yn ni’n rhoi cyflei Cory greu argraff ar y llwyfan cenedlaethol,” meddai Warren Gatland, gan ddwud y bydd eisiau gweld y chwaraewyr ifanc yn chwilio am fylchau i ryddhau chwaraewyr eraill.

Y penderfyniad i ddewis Cory Allen oedd y testun trafod ymhlith cefnogwyr ond mae Allen ei hun yn swnio’n ffyddiog.

‘‘Dw i’n hyderus,” meddai. “Os na fyddwn yn ddigon da, fyddai’r hyfforddwr ddim wedi fy newis. Dw i’n llawn cyffro wrth feddwl am chwarae.”

Biggar yn lle Priestland

Fe fydd newid arall yng nghanol y cae i Gymru yn erbyn yr Ariannin, gyda Dan Biggar yn disodli Rhys Priestland yn safle’r maswr – anafiadau sy’n gorfodi rhai o’r newidiadau eraill.