Stadiwm Liberty - maes y frwydr
Heno fe fydd y Gweilch yn croesawu’r Gleision i Stadiwm y Liberty ar gyfer eu hail gêm yng nghystadleuaeth Cwpan LV.
Fe wnaeth y ddau dîm golli yn eu gêmau agoriadol, gan roi pwysau ychwanegol ar y gêm ddarbi ar faes y Liberty.
Yn ôl rheolwr olwyr y Gwweilch, fe fydd yn gyfle da i chwaraewyr ifanc fachu yn eu cyfle gyda llawer o’r sêr yn y carfannau rhyngwladol.
Mae’r gêm tros y blynyddoedd wedi bod yn galed “gydag awyrgylch arbennig” meddai Gruff Rees
Newyddion tîm – y Gleision
Fe fydd y maswr Simon Humberstone yn dechrau am y tro cynta’ ar ôl disgleirio oddi ar y faing yn erbyn y Worcester Warriors yr wythnos ddiwetha’.
Hefyd fe fydd Gavin Evans yn dychwelyd i reoli canol y cae a’r prop Sam Hobbs yn arwain, gyda’r Gleision heb ugain o’u chwaraewyr ar hyn o bryd.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Jamie Murphy, Aisea Natoga, Tom Isaac, Jonathan Spratt (Capten), Dafydd Howells, Matthew Morgan a Tito Tebaldi.
Blaenwyr – Marc Thomas, Matthew Dwyer, Dan Suter, Lloyd Peers, Rhodri Hughes, Graham Knoop, Arthur Ellis a Joe Bearman.
Eilyddion – Evan Yardley, Nicky Smith, Nicky Thomas, Sam Williams, Sam Lewis, Rhys Webb, Sam Davies a Ben John.
Tîm y Gleision
Olwyr – Dan Fish, Richard Smith, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Simon Humberstone, Alex Walker.
Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), KristianDacey, Benoit Bourrust, Macauley Cook, James Down, Ellis Jenkins, Thomas Young a Robin Copeland.
Eilyddion – Rhys Williams, Taufa’ao Filise, Tom Davies, Miles Normandale, Rory Watts-Jones, Luke Hamilton, Lewis Jones a To