Bydd Pencampwr Rali’r Byd, Sébastien Ogier, yn cychwyn Rali Cymru GB heno wedi iddo ddod i’r brig yn rowndiau rhagbrofol heddiw.
Ond mae Thierry Neuville yn dynn ar ei sodlau gan orffen y rowndiau rhagbrofol dim ond 0.070 eiliad y tu ôl i’r Ffrancwr.
Bydd y rali yn cael ei hagor yn swyddogol yng Nghonwy am 18:30 cyn i’r rasio fynd rhagddi.
Bydd tri chymal cynta’r rali yn cael eu cynnal mewn tywyllwch yng nghoedwigoedd Gwydyr, Penmachno a Chlocaenog.
Bydd Rali Cymru GB yn para’ pedwar niwrnod a bydd y rasio i gyd yn digwydd yng ngogledd Cymru gan gynnwys cymalau eraill yng Nghastell y Waun ger Wrecsam ac ym Modelwyddan.