Stadiwm y Mileniwm
Mae hyfforddwr Yr Ariannin, Daniel Hourcade, wedi gwneud pedwar newid i’r tîm cyn iddyn nhw wynebu Cymru yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.
Bydd yr asgellwr 19 mlwydd oed, Santiago Cordero, yn cymryd lle Juan Imhoff wedi iddo gael ei anafu’r penwythnos diwethaf pan gollodd Yr Ariannin 31-12 yn erbyn Lloegr.
Mae Joaquin Tuculet wedi cael ei ddewis fel cefnwr yn lle Lucas Amorosino, mae’r mewnwr Martin Landajo yn disodli Tomas Cubelli a bydd y clo, Manuel Carizza, yn cychwyn yn lle Mariano Galarza.
Bydd yr asgellwr Horacio Agulla yn ennill ei 50fed cap.
Fe wnaeth Yr Ariannin, sydd wedi colli eu saith gêm ddiwethaf, guro Cymru 26-12 yng Nghaerdydd fis Tachwedd diwethaf a dyw Cymru heb ennill gem yng nghyfres yr Hydref ers iddyn nhw drechu’r Ariannin yn 2009.