Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi galw cynhadledd i’r wasg fory ble bydd disgwyl iddyn nhw gadarnhau fod Chris Coleman am arwyddo cytundeb newydd fel rheolwr.
Bydd Prif Weithredwr y Gymdeithas Jonathan Ford a’r Llywydd Trefor Lloyd Hughes yn ymddangos gyda Coleman yn y gynhadledd, gan awgrymu eu bod nhw’n paratoi i gyhoeddi ei fod am barhau yn ei swydd.
Mae’r gynhadledd honno am 12.30yp wedi cael ei drefnu’n ychwanegol i’r gynhadledd sydd yn digwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn yfory.
Ac mae nifer o gyfryngau gan gynnwys y BBC, Wales Online a Sky Sports eisoes yn dweud ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd nes 2016.
Mae sôn wedi bod dros yr wythnosau diwethaf fod Crystal Palace wedi bod ar ôl Coleman wedi i Ian Holloway ymddiswyddo fel rheolwr.
A’r mis diwethaf fe fynegodd Coleman amheuon a oedd eisiau parhau yn y swydd yn dilyn awgrymiadau fod rhaid iddo gael canlyniadau cadarnhaol yn y ddwy gêm ddiwethaf.
Mae ei gytundeb i fod yn dirwyn i ben yn dilyn y gêm yn erbyn y Ffindir nos Sadwrn, ond os bydd cadarnhad ei fod yn aros yna fe fydd Coleman yn cael cytundeb i arwain Cymru i Bencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc yn 2016.