Fe fydd diffoddwyr tân yn cynnal streic arall heddiw wrth i’r anghydfod rhyngddyn nhw a’r Llywodraeth ynghylch pensiynau barhau.
Dyma fydd y pendwerydd streic ganddyn nhw’n ddiweddar, gyda’r ddiweddaraf yn streic ddwy awr ddydd Llun diwethaf.
Mae gweithwyr yr Undeb y Brigadau Tân yn protestio dros godi oedran ymddeol o 55 i 60.
Mae’r undeb hefyd yn ofni y bydd gweithwyr hŷn yn colli eu gwaith os byddan nhw’n methu profion ffitrwydd.
Mae’r Llywodraeth yn honni y byddai ymladdwr tân ar £29,000 o gyflog sy’n ymddeol yn 60 oed, yn cael £19,000 o bensiwn. Maen nhw’n dweud fod y cynnig yn un hael.