Mae teulu a chyfeillion dyn 44 oed a gafwyd yn farw ar y stryd yn Llandudno, wedi rhoi teyrngedau iddo.

Fe ddaethpwyd o hyd i Barry Roberts ar safle y tu ôl i Ffordd Llwynon yn oriau mân fore Mawrth, Tachwedd 4. Dyw ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Roedd yn dad i un, ac yn byw ar y Gogarth yn y dre’.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae ymchwiliad i farwolaeth Barry Roberts yn mynd rhagddo, ac mae’r achos wedi’i drosglwyddo i’r crwner.