Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen dan y lach am ddefnyddio neges peiriant uniaith Saesneg i ateb galwadau’r linell ffôn gyffredinol.

Bu’r neges yn weithredol ers mis Gorffennaf, ac mae Comisynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad i’r mater ers mis Awst.

Yn ôl y cyngor roedd y system ateb awtomatig yn cael ei dreialu yn Saesneg, cyn cyflwyno fersiwn ddwyieithog.

Oherwydd bod “problemau” gyda’r fersiwn Saesneg, mae’r cyngor wedi penderfynu ymatal rhag cyflwyno’r fersiwn Gymraeg hyd yma, yn ôl llefarydd.

Ond “esgus” yw’r eglurhad swyddogol, yn ôl un o’r rhai sy’n pwyso am neges ddwyieithog ar y ffôn.

“Mae problemau o hyd efo cael gwasanaeth yn Gymraeg gan y cyngor,” meddai Yvonne Balakrishnan, “ond toes yna ddim problemau i’w gael o yn y Saesneg.”

Yr hanes yn llawn yng nghylchgrawn Golwg.