Fe fydd diffoddwyr tân yn cynnal streic arall yr wythnos nesaf, wrth i’r anghydfod rhyngddyn nhw a’r Llywodraeth ynghylch pensiynau barhau.

Daeth cyhoeddiad heddiw y bydd gwasanaethu yng Nghymru a Lloegr yn mynd ar streic dydd Mercher nesaf.

Mae cyfnod o streicio wedi bod yn ddiweddar, gan gynnwys streic ddwy awr ddoe, wrth i weithwyr o Undeb y Brigadau Tân brotestio dros godi oedran ymddeol o 55 i 60.

Mae’r undeb yn ofni y bydd gweithwyr hŷn yn colli eu gwaith os byddan nhw’n methu profion ffitrwydd.

Mae’r Llywodraeth yn honni y byddai ymladdwr tân ar £29,000 o gyflog sy’n ymddeol yn 60 oed, yn cael £19,000 o bensiwn. Maen nhw’n dweud fod y cynnig yn un hael.