Mae diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr wedi cynnal streic arall fel rhan o’u hanghydfod â Llywodraeth Prydain dros bensiynau.
Fe ddaeth y streic ddwyawr gan aelodau undeb yr FBU i ben am wyth y bore yma, gan ddilyn streic bedair awr nos Wener.
Maen nhw’n protestio yn erbyn bwriad Llywodraeth Prydain i godi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60 a newid trefniadau pensiwn.
Mae’r undeb yn ofni y bydd eu haelodau yn cael eu diswyddo os byddan nhw’n methu profion ffitrwydd i barhau yn y rheng flaen ac yn methu â dod o hyd i swyddi eraill yn y gwasanaeth tân.
‘Cynnig gwaeth’
Mae’r undeb yn honni bod y Llywodraeth wedi gwaethygu eu cynnig o ran pensiynau ac oedran ymddeol cyn i’r streic gael ei chynnal ddydd Gwener.
Dywed swyddogion yr undeb fod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y gwasanaeth tân, Brandon Lewis, wedi ysgrifennu at yr undeb brynhawn Gwener gan ddweud fod ei gynnig diwethaf wedi bod “yn ddibynnol ar gael ei dderbyn” a bod y cynnig bellach wedi’i ddileu.
Dywedodd Brandon Lewis fod yr anghydfod “yn hollol ddiangen”.
Cymru
Yn ôl y gwasanaethau tân yng Nghymru, roedd y bore’n gymharol dawel – er fod pryder fod ysgolion yn ailagor am arwain at ragor o ddamweiniau ffordd.