Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn dweud bod prif raglen waith Llywodraeth Prydain yn gwneud yn waeth yng Nghymru nag mewn ardaloedd eraill.
Dim ond ychydig tros10% o’r holl bobol sy’n mynd ar y Rhaglen Waith sy’n cael gwaith tymor hir, medden nhw, ac, yn ystod y misoedd diwetha’, mae Cymru wedi bod yn colli tir.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor yn dweud bod biwrocratiaeth yn rhwystro’r cynllun rhag gweithio’n fwy effeithiol.
Rhwystr
Un o’r problemau yw fod pobol ar y rhaglen yng Nghymru yn methu â mynd ar gyrsiau pellach sy’n cael eu cyllido gan yr Undeb Ewropeaidd.
Yn Lloegr, mae cyrsiau eraill ar gael ac mae’r Pwyllgor yn galw ar lywodraethau Cymru a Phrydain i ddatrys y broblem.
Yn ôl y Pwyllgor Dethol, mae’r dryswch yn dangos diffyg hyblygrwydd a hynny’n waeth yng Nghymru.
Y cefndir
Mae’r Rhaglen Waith wedi ei chreu ar gyfer pobol sydd wedi bod yn ddi-waith ers mwy na dwy flynedd ac sy’n wynebu rhwystrau sylweddol.
Yn ystod y 25 mis cynta’, roedd 69,590 o bobol wedi bod ar y cynllun yng Nghymru, ond dim ond 7,550 oedd wedi cael gwaith am gyfnodau sylweddol.
Mae’r Swyddfa Gyllido Ewropeaidd yng Nghymru’n rhwystro pobol rhag mynd ar gyrsiau eraill sy’n cael arian gan yr Undeb Ewropeaidd – oherwydd rheolau sy’n gwahardd cyllido dwbl.
‘Mater o bryder’ – sylwadau’r Cadeirydd
“Mae’n amlwg yn fater o bryder i ni mai’r graddau llwyddiant yng Nghymru yw’r isaf yn Mhrydain Fawr,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Aelod Seneddol Mynwy, David Davies.
“Y broblem allweddol yw fod yna ddiffyg hyblygrwydd o fewn a rhwng y gwahanol raglenni sydd wedi eu creu i gael pobol yn ôl i waith, ac mae’n ymddangos bod y diffyg hyblygrwydd hwnnw’n fwy amlwg yng Nghymru.
“Y peth ola’ yr ’yn ni eisiau yn y sefyllfa yma yw fod biwrocratiaeth yn rhwystro pobol rhag gwneud yr hyn sydd fwya’ effeithiol.”