Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi anfon neges yn rhybuddio rhag cawodydd trymion a gwyntoedd garw.
“R’yn ni wedi derbyn nifer fawr o alwadau yn dweud fod coed wedi cwympo,” medden nhw. “Mae yna adroddiadau o ddifrod i adeiladau hefyd o ganlyniad i wyntoedd cryfion.
“Byddwch yn ofalus ma’s yna.”
Fe ddaeth neges hefyd yn dweud fod Pont Cleddau ar gau.