Mae Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymbil ar i gymunedau “fod yn hynod wyliadwrus a gwybodus” yn ystod streic gan ymladdwyr tân dros yr wythnos nesa’.

Mae Undeb y Brigadau Tân wedi cyhoeddi bod dynion tân am streicio rhwng 6.30yh a 11.00yh heddiw, ac wedyn o 6:00yb hyd 8:00yb ddydd Llun, Tachwedd 4.

Yn ystod cyfnod y streiciau, fe fydd y gwasanaeth yn derbyn cymorth allanol gan y lluoedd arfog. Ond fe fydd y cymorth hwnnw’n gyfyngedig i chwe chriw hyfforddedig ar draws de Cymru.

Anghydfod rhwng Undebau Llafur a Llywodraeth y DU am godi oed ymddeol o 55 i 60 sydd wedi arwain at y streiciau.

Achub bywydau yw’r flaenoriaeth

Dywedodd Rod Hammerton, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mai achub bywydau fydd blaenoriaeth dynion tân yn ystod y streic.

“Byddwn yn parhau i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol hyd eithaf ein gallu, gyda’r adnoddau cyfyngedig iawn sydd ar gael, a byddwn yn blaenoriaethu’r defnydd o’r adnoddau sydd ar gael gyda ffocws ar ddiogelu bywyd,” meddai.

“Yr ydym, a byddwn yn parhau i gyfathrebu â’r cyhoedd ynghyd â darparu gwybodaeth i leihau risg i gymunedau, busnesau a chyfranddalwyr eraill yn ne Cymru drwy law datganiadau rheolaidd i’r wasg a gwefan y Gwasanaeth.

“Bydd rhif ffôn pwrpasol ar gyfer ymholiadau’r cyhoedd (01443 232181) yn ogystal â chyfeiriad e-bost (ymholiadau@decymru-tan.gov.uk).”