David Cameron ym Mae Caerdydd
Fe gyhoeddodd Prif Weinidog Prydain mai Llywodraeeth Cymru fydd yn dewis i gynnal refferendwm treth incwm neu beidio.
Ac mewn cynhadledd i’r wasg ym Mae Caerdydd, mae wedi gwrthod ymddiheuro tros gymryd pwyll cyn ymateb i adroddiad Comisiwn Silk, gan ddweud fod y penderfyniadau’n rhy bwysig i’w rhuthro.
Mae rhoi’r penderfyniad am refferendwm yn nwylo Llywodraeth Cymru yn creu problem i’r Blaid Lafur sy’n amheus am gael hawliau treth cyn i Gymru gael chwarae teg ariannol o Lundain.
Fe fyddai refferendwm yn dewis a ddylai Cymru gael yr hawl i amrywio gwerth 10 ceiniog o dreth incwm – dewis cael gwerth hynny’n llai trwy’r dreth gyffredinol a chodi, neu beidio â chodi, yr arian eu hunain.
Fe allai olygu bod y dreth incwm yng Nghymru yn uwch, neu’n is, nag yn Lloegr.
Trethi eraill
Fe gadarnhaodd David Cameron y bydd Cymru’n cael hawliau tros dreth stamp ar brynu a gwerthu tai, tros dreth tirlenwi a thros hawliau benthyg newydd i dalu am gynlluniau fel rhan newydd o’r M4.
Ym marn David Cameron, roedd problemau’r draffordd ar hyn o bryd fel “troed ar wddw” economi Cymru.
Ond fydd yna ddim hawl i reoli treth ar hedfan – yn ôl Prif Weinidog Prydain, fe fyddai hynny’n ystumio’r drefn trwy’r Deyrnas Unedig.