Prifysgol Bangor
Bydd ystafelloedd darlithio gwag ledled Cymru heddiw wrth i dair undeb streicio dros anghydfod yn ymwneud â chyflogau staff.
Mae Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU), Unsain ac Unite wedi ymuno â’r streic ar ôl gwrthod codiad cyflog o 1%.
Maen nhw’n dadlau y byddai hynny’n golygu bod cyflogau’n werth 13% yn llai mewn termau real nag yn 2008.
Dywedodd Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau (UCEA) eu bod yn credu y bydd cyflogau yn codi ychydig yn fwy na hynny mewn gwirionedd.
‘Dim llawer o effaith’
“Bydd costau cyflog yn y rhan fwyaf o sefydliadau Addysg Uwch mewn gwirionedd yn codi tua 3% eleni,” meddai llefarydd.
“Fe ddewisodd llai na 5% o’r staff i bleidleisio o blaid streicio yn ein sefydliadau Addysg Uwch, felly dydyn ni ddim yn credu y bydd llawer o effaith ar fyfyrwyr. ”
Ond mynnodd Michael MacNeil, Pennaeth Addysg Uwch UCU, y bydd staff yn cefnogi’r streic heddiw.
“Mae’r staff yn anhapus iawn ynglŷn â’r toriadau cyflog y maen nhw wedi gorfod eu dioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n credu y bydd y streic ddydd Iau yn cael cefnogaeth dda iawn.
“Rydym yn rhyfeddu bod y cyflogwyr yn gwrthod eistedd i lawr gyda ni i geisio datrys hyn heb fod angen gweithredu. Rydym ni’n parhau i gynnig trafod.”
‘Lleddfu’r wasgfa’
Dywedodd Penelope Dowdney, Llywydd Swyddfa UCU Prifysgol Bangor nad oedden nhw’n gofyn am arian “afresymol”,
“Dim ond digon i geisio lleddfu’r wasgfa enfawr sydd ar ein costau byw,” meddai.
“Os nad yw’r streic yn newid pethau, byddwn yn parhau i ymgyrchu i atal y cwymp yng ngwerth ein cyflogau. Rydym ni wedi gofyn i’n haelodau weithio i delerau eu cytundebau nhw hyd nes y bydd y mater yn derbyn sylw haeddiannol.”
Myfyrwyr anhapus
Bydd nifer o fyfyrwyr yn cael aros yn eu gwlâu bore ma. Ond nid pob myfyriwr sy’n hapus i gael gwneud hynny.
“Rwy’n flin iawn – mae gen i lawer o ddyddiadau cau yn agosáu ac mae’r darlithoedd hyn i gyd yn hanfodol i fy helpu i gwblhau fy aseiniadau,” meddai Matthew Flynn, myfyriwr yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’n boen go iawn gan fy mod i’n talu cymaint mewn ffioedd dysgu; y myfyrwyr fydd yn dioddef yn y pen draw,” meddai Jenna Doutch, sydd hefyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Penelope Dowdney ei bod hi’n cydymdeimlo â’r myfyrwyr.
“Mae’r addysgwyr i gyd yn pryderu am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar fyfyrwyr, ac rydym wedi cymryd camau i ddelio â hynny.
“Nid ar chwarae bach yr ydym ni wedi penderfynu streicio. Bydd staff academaidd sy’n streicio yn colli cyflog am y diwrnod – mae hyn yn dangos fod ganddyn nhw deimladau cryf ar y mater.”
Stori: Jamie Thomas