Llys y Goron Caerdydd
Mae joci wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd, wedi’i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ferched oedd yn gweithio yn yr un stablau ag ef.

Mae Stephen Cashmore, 49, wedi’i gyhuddo o dri achos o ymosod yn anweddus ar blentyn, a phedwar achos arall o ymosod yn anweddus ar dair dioddefwraig gwahanol.

Mae’r rheithgor wedi clywed heddiw fel y daeth y tair dynes, sydd bellach yn eu 30au, ymlaen i wneud y cwynion am ymosodiadau a ddigwyddodd, yn honedig, rhwng 1988 ac 1991.

Mae Stephen Cashmore, sy’n byw yn Bonymaen, Abertawe, hefyd wedi’i gyhuddo o gyffwrdd clun merch arall, a cheisio ei chusanu.

Mae’n gwadu’r saith cyhuddiad yn ei erbyn, ac mae’r achos yn parhau.