Mae sgwatwyr wedi meddiannu tŷ cyngor drutaf gwledydd Prydain, ddiwrnod wedi iddo gael ei werthu am bron i £3m.

Fe gafodd yr adeilad rhestredig Gradd II ei brynu gan brynwr anhysbys am £2.96m ddoe.

Penderfynodd Cyngor Southwark yn Llundain werthu’r adeilad i godi arian ar gyfer 20 tŷ cyngor newydd.

Mae mwy nag 20 aelod o’r grŵp cymunedol Homes for All wedi meddiannu’r adeilad fel rhan o brotest i wrthwynebu polisi tai cymdeithasol y cyngor.