Ymgasglodd tyrfa ym Mae Trearddur ger Caergybi heddiw er mwyn bod yn dyst i ymddangosiad cyhoeddus cyntaf y Tywysog William a’i ddarpar wraig Kate Middleton.

Roedd y pâr priod yno er mwyn cymryd rhan mewn gwasanaeth i gyflwyno bad achub newydd ger eu cartref ar Ynys Môn.

Fe fydd y ddau yn priodi yn Abaty San Steffan ar 29 Ebrill eleni. Mae’r Tywysog William yn gweithio yn RAF y Fali, Ynys Môn, ar hyn o bryd.

“Dw i’n meddwl fod o’n wych,” meddai Lisa Taylor, 42, o’r Fali.

“Mae’r gwaith mae’r Bad Achub Frenhinol yn ei wneud ffordd hyn yn bwysig iawn. Mae’n dda eu bod nhw wedi denu gwesteion mor enwog.

“Fe fydd o’n wych gweld William a Kate. Dw i’n edrych ymlaen.”

Dywedodd Jean a Keith Critchley, sydd â thŷ haf ar yr ynys, y byddai William a Kate yn gwneud lles i’r ardal.

“Maen nhw’n gwpwl hyfryd,” meddai Jean, 63, sy’n byw yn Warrington. “Mae o’n hogyn hyfryd ac mae hi’n ferch brydferth.”

Mae tua 2,000 o westeion wedi eu gwahodd i’r briodas. Heddiw cyhoeddodd y chwaraewr rygbi Brian O’Driscoll ar wefan Twitter ei fod wedi ei wahodd.

Bydd y briodas yn cael ei nodi gan ŵyl banc swyddogol ar draws Prydain.