Llun Anthony Devlin/PA
Mae cwmni ynni Nwy Prydain wedi cyhoeddi eu helw blynyddol mwyaf erioed heddiw, llai na thri mis ar ôl cynyddu prisiau 7%.

Roedd Nwy Prydain, sy’n rhan o gwmni ynni enfawr Centrica, wedi gwneud elw o £742 miliwn yn 2010, yn ôl y ffigyrau. Mae hynny’n gynnydd o 24% ar y flwyddyn flaenorol.

Cododd pris tanwydd cwsmer arferol Nwy Prydain o £1,157 y flwyddyn i £1,239 ar 10 Rhagfyr, a hynny ar ddechrau un o’r cyfnodau oeraf ym Mhrydain ers 100 mlynedd.

Nwy Prydain yw darparwr ynni mwyaf Prydain erbyn hyn. Maen nhw’n darparu ynni ar gyfer 16 miliwn o gwsmeriaid, ac wedi denu 267,000 yn rhagor o gwsmeriaid yn 2010.

Beiodd y cwmni’r cynnydd mewn pris tanwydd ar gynnydd 29% mewn costau, i £2.4 biliwn, y llynedd.

Yn ôl prif weithredwr Centrica, Sam Laidlaw, mae’n bwysig cofio fod pris y tanwydd 0.5% yn is ar ddiwedd 2010 nag yr oedd ar ddechrau’r flwyddyn, wedi i’r cwmni dorri 7% oddi ar eu prisiau ym mis Chwefror 2010.