Heddiw bydd cynllun yn cael ei lansio i gefnogi cerddorion cyfoes amlycaf Cymru, a helpu i sicrhau gwaddol o Expo Cerddoriaeth y Byd WOMEX a gynhelir yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Yng nghynllun ‘Gorwelion’ mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru am geisio rhoi llwyfan i gerddoriaeth gyfoes mewn digwyddiadau ledled Cymru ac ar wasanaethau radio cenedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf.
Artistiaid sydd ddim yn perthyn i label fydd yn gymwys i ymgeisio am gymorth. O fewn y cynllun mae menter o’r enw ‘Seiniau 2014’- sy’n tynnu sylw at 12 artist sy’n canu yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae hefyd cyfle i ennill grant o £5,000 i dalu am adnoddau fel offerynnau a chyfarpar drwy’r ‘Gronfa Lansio’.
Hyrwyddo
Arbenigwyr golygyddol o BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru fydd yn dewis pwy fydd yn derbyn yr arian. Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:
“Mae gan BBC Cymru Wales draddodiad balch iawn o ddod o hyd i’r artistiaid mwyaf addawol yn Gymraeg a Saesneg a’u hyrwyddo.
“Ar hyn o bryd, mae poblogrwydd cerddoriaeth o Gymru yn ffynnu go iawn gydag artistiaid fel The Joy Formidable, Yr Ods a Georgia Ruth yn mynd o nerth i nerth – ac mae’r bartneriaeth hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn dangos ein bod wedi ymrwymo i gefnogi rhagoriaeth artistig ledled Cymru.”