Cerys Matthews
Non Tudur fu yn noson agoriadol Womex…

Roedd cael eistedd dwy sedd y tu ôl i’r bonheddwr Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn noson agoriadol Womex o dan arweinyddiaeth Cerys Matthews yn brofiad i’w drysori.

Braf oedd gweld y ddau yn gwrando’n astud ar y modd yr oedd Cerys a’i chriw yn dehongli holl hanes cerddoriaeth Cymru – o bastynu a cherdd dant i gorau meibion, yn amlwg wrth eu boddau ac yn cymeradwyo’n frwd.

Yn ei hanerchiad cyn y gyngerdd, fe dalodd trefnydd Womex yng Nghymru, Eluned Haf o Cerdd Cymru, deyrnged dwymgalon i’r ddau. Hebddyn nhw, meddai, fuasen ni ddim yn canu’r caneuon y byddwn yn eu clywed heno.

Dechreuodd y sioe gyda Twm Morys yn camu ar lwyfan o dan lifolau coch gyda’i bastwn yn datgan yr awdl ‘Bwrw Iddi’,  gyda Gorwel Roberts, Gwyn Jones (Maffia) yn rhyfelgan y llu yn galw ar Ddewi Sant i’w cynnal yn ysbrydol ac yn rhagweld y gelanedd fawr. Yn ôl pob tebyg, daeth ryw drefnydd cerddorol o’r Fenni at Twm ddiwedd y noson a dweud taw dyna ei hoff ran o’r sioe gyfan, a buasai llawer yn cytuno.

Mae Cerys i’w chanmol yn fawr am ymdrechu mor galed i geisio adlewyrchu’r traddodiad cerddorol yng Nghymru mewn ychydig dros awr, yn y fath le crand. Doedd hi ddim yn dasg hawdd, mi w’ranta.

Ond rhoddodd le a pharch mawr i’r canu Cymraeg, yn dewis hen alawon a oedd â stori yn perthyn iddyn nhw. Roedd ei deuawd hi a Gwenan Gibbard ar y delyn ‘Oes Gafr Eto?’ yn rhagorol ac yn rhoi syniad o’r hwyl sy’n perthyn ynom ni’r Cymry, rywle, a’r gân aredig ‘Gyrru’r Ychen’.

Roedd Gwenan Gibbard yn gampus yn canu cerdd dant – geiriau ‘Cenedl’ gan Gerallt Lloyd Owen ar alaw Traeth Lafan Gareth Mitford Williams, ac yna alaw ysgafn ‘Noson Aflawen’ gyda Cerys.

Noson Cerys oedd hi; hi oedd yn mynnu sylw a hithau ar lwyfan ac yn perfformio trwy gydol y sioe bron. Hi oedd  y codwr canu, os mynnwch chi. Aeth â hi yn afieithus trwy alawon fel ‘Wrth Fynd efo Deio i Dywyn’, ‘Migldi Magldi’ a ‘Sosban Fach’ yn ei harddull Americana sionc.

Ond i mi, yr eitemau a oedd yn sefyll ben ac ysgwydd uwch y lleill oedd gan yr arbenigwyr, fel dehongliad Delyth ac Angharad Jenkins o ‘Glyn Tawe’, yn gyfeiliant i hen ffilmiau archif o gantorion a beirdd gwlad, a gwerinwyr yn codi cân (ac ambell i Shirley Bassey a Tom Jones); Gwenan Gibbard yn canu ‘Cenedl’ gan Gerallt Lloyd Owen ar gerdd dant; a Robin Huw Bowen a Rhiain Bebb ar eu telynau teires, gyda ffilm fendigedig ar y wal o hanes y delyn yng Nghymru, yn dangos Nansi Richards Telynores Maldwyn wrth ei thelyn, Sian James ifanc yn bwrw’i phrentisiaeth, a chrefftwr yn saernïo telyn fach gyda chetyn yn ei geg.

Cafodd Cerys hyd i’r ffilmiau ar ôl tyrchu trwy archifau Sain Ffagan ac, meddai yn ffraeth, “from all these television stations  we have in Wales”, sylw a ddenodd gryn chwerthin o’r dorf. Ac  Arfon Gwilym, Sioned Webb a Sian James yn canu dwy garol Plygain – ‘Llygoden yn y Felin’ ac ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ – yn benigamp. Dyna pryd roeddwn yn eistedd lan yn fy sedd, a’m calon yn chwyddo.

Roedd yna lawer o ganmol gan y Cymry yn enwedig i berfformiadau swynol Georgia Ruth – ar ‘Ar Ben Waun Tredegar’ ac yn arbennig ar ‘Gyrru’r Ychen’ – lle’r oedd y sŵn harmoneiddio a’r datblygiad rhythmig yn un cyfoes iawn. Roedd eraill o’r sin werin yma wrth eu bodd o weld y Dawnswyr Nantgarw yn cael brwydr ar lwyfan gyda dawnswyr Bale Cymru – honno’n ‘first’!

Ond tybed a oedd yn rhaid i’r merched wisgo dillad fel yr hen gardiau post ystrydebol yna, gyda betgwn a het uchel? Ystrydeb yn wir, efallai fel cân gyntaf Côr Meibion Treorci, ‘Men of Harlech’ – er nad oedd dwywaith eu bod nhw’n drawiadol i gloi’r gyngerdd.

Mae Cerys yn arweinydd cyngerdd penigamp, does dim dwywaith amdani.  Ymysg y sylwadau a glywais am y gyngerdd yn y derbyniad wedyn oedd ei bod yn gyngerdd ‘proffesiynol’, ‘cenedlaetholgar’, a bod yna ‘lot fawr o Gerys’!

Efallai bod y noson ychydig yn rhy dwt a thaclus a threfnedig, fel ein bod yn desbret i geisio profi pwy ydyn ni a chyfoeth ein treftadaeth – ond beth arall fedren ni ei wneud? Dywedodd rheolwr cerddorol o India wrtha’ i wedi’r gyngerdd  nad oes dim byd o’i le ar fod yn orbroffesiynol lle mae miwsig yn y cwestiwn.

Ac, fel y dywedodd merch ifanc o’r Ffindir wrtha i drannoeth, o leia’ mae ‘na bobol drwy’r byd bellach yn gwybod ryw ychydig bach am draddodiadau cerddorol ein gwlad.