Elfed Roberts yn croesawu'r adroddiad
Mae’r tasglu a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru a llywodraethau lleol roi fwy o arian i’r Brifwyl.
Y llynedd cafodd Grŵp Gorchwyl, o dan gadeiryddiaeth y darlledwr Roy Noble, ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol yr ŵyl a sut i’w moderneiddio.
Wrth gyhoeddi eu hargymhellion y bore ma, dywedodd y tasglu hefyd y dylai’r Eisteddfod benodi Cyfarwyddwr Artistig ac y dylen nhw gyd weithio mwy gydag Urdd Gobaith Cymru a sefydliadau eraill.
Er eu bod nhw wedi ystyried un safle parhaol ar gyfer yr Eisteddfod neu gael dau safle parhaol fyddai’n cael eu defnyddio’n gyson, mae’r Grŵp gorchwyl o’r farn y dylai’r Eisteddfod barhau i deithio i wahanol ardaloedd pob blwyddyn.
Er hynny, mae’r adroddiad yn argymell defnyddio mwy o adeiladau parhaol yn Eisteddfod Caerdydd yn 2018 ond y dylai Llywodraeth Cymru baratoi adroddiad arall ar lwyddiant yr arbrawf yna ar ôl iddo ddigwydd.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
– Bod yr eisteddfod yn parhau i deithio i ardaloedd gwahanol pob blwyddyn
– Penodi cyfarwyddwr artistig i wneud yr ŵyl yn ddeinamig a fyddai’n denu ymwelwyr dros y byd.
– Adolygu’r cystadlaethau gan wneud yn siŵr bod yr Eisteddfod yn cynnig cystadlaethau apelgar, cyfoes a blaengar.
– Cynyddu ymwelwyr gyda strategaeth marchnata newydd ac ystyried creu Canolfan Dreftadaeth ddigidol.
– Gwneud mwy i ddenu gwirfoddolwyr ifanc gan gynnwys cyd weithio gyda’r Urdd.
– Creu grŵp o arbenigwyr digidol i greu strategaeth ddigidol uchelgeisiol newydd.
– Bod Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd cydweithio o leiaf ddwywaith y flwyddyn rhwng yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn annog sefydliadau i weithio ar y cyd.
– Bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynyddu refeniw’r Eisteddfod fel eu bod nhw’n gallu datblygu ymhellach
– Bod Llywodraeth Cymru’n annog cyrff cyhoeddus i greu partneriaeth gyda’r Eisteddfod.
Croesawu adroddiad
Meddai Roy Noble: “Fel Cadeirydd, rwy’n mawr obeithio y bydd y rhan fwyaf o bobl, sy’n dal lles a dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol yn agos at eu calon, yn teimlo bod ein trafodaethau a’r argymhellion rhesymegol ac yn rhesymol.”
Meddai prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts ei fod yn croesawu’r adroddiad.
“Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Grŵp, a byddwn yn edrych yn fanwl ar ei gynnwys.
“Mae hwn yn adroddiad annibynnol ar yr Eisteddfod, a gomisiynwyd gan y cyn Weinidog Addysg a Sgiliau, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb y Llywodraeth i’w gynnwys a’r argymhellion maes o law.”
“Bydd yr ymateb hwn a’r adroddiad ei hun yn mynd gerbron Bwrdd Rheoli a Chyngor yr Eisteddfod, ac yn dilyn y trafodaethau mewnol hyn byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i’r adroddiad. Does dim modd i ni ymateb ymhellach nes bod hyn wedi digwydd.
“Hoffwn ddiolch i’r grŵp am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn arbennig i’r Cadeirydd, Roy Noble, am lywio’r broses. Hoffwn hefyd ddiolch i’r cannoedd o unigolion a fynegodd eu barn am yr Eisteddfod fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni.”
‘Argymhellion yn synhwyrol’
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn “credu bod yr argymhellion yn rhai synhwyrol dros ben ac yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod gan yr Eisteddfod.”
Ychwanegodd: “Mae’n wir i ddweud bod angen edrych ar farchnata, strategaeth ddigidol, ac ar y pwynt am benodi cyfarwyddwr artistig. Ond beth wnaeth dynnu fy sylw i oedd bod angen i’r Eisteddfod symud bob blwyddyn ac mae hynny’n bwysig dros ben.”
‘Codi cwestiynau’
Dywedodd Toni Schiavone llefarydd cymunedau’r Gymdeithas: “Gyda’r argyfwng sydd yn wynebu’r Gymraeg oherwydd y gyfundrefn gynllunio, diffyg hawliau, a system addysg sy’n amddifadu mwyafrif y genhedlaeth nesaf o’r Gymraeg, dyw hi ddim ond yn deg ein bod ni’n codi cwestiynau am ddiben adolygiad sydd wedi argymell cyn lleied.
“Wedi dweud hynny, rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd yr Eisteddfod yn parhau fel un symudol, a’r gydnabyddiaeth y gellid gwneud llawer mwy er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa. Rydyn ni’n cynnal gigs yng nghanol y cymunedau mae’r Eisteddfod yn ymweld â nhw, ond mae’n bwysig hefyd bod yr Eisteddfod ei hunan yn gwneud mwy yn y cyfeiriad yna.”