Fe fydd y tasglu a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi ei ddarganfyddiadau’r bore ma.

Y llynedd cafodd Grŵp Gorchwyl, o dan gadeiryddiaeth y darlledwr Roy Noble, ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol yr ŵyl a sut i’w moderneiddio.

Un safle?

Er eu bod nhw wedi ystyried un safle parhaol ar gyfer yr Eisteddfod, mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi heddiw y dylai’r brifwyl barhau i deithio yn flynyddol o amgylch Cymru.

Roedd Roy Noble hefyd wedi sôn bod y tasglu yn edrych ar ddau safle parhaol a fyddai’n cael eu defnyddio pob dwy flynedd – ond mae’n debyg na fydd yr opsiwn hwnnw yn cael ei ystyried rhagor chwaith.

Cefndir

Ar hyn o bryd, mae’r Eisteddfod yn cael grant o £900,000 y flwyddyn gyda £500,000 yn dod gan Lywodraeth Cymru a bron i £400,000 gan gynghorau lleol.

Mae’r Eisteddfod eisiau rhagor o arian gan y Llywodraeth ac mae Llywodraeth Cymru am weld yr ŵyl yn moderneiddio.

Ymhlith yr awgrymiadau a wnaed gan y cyn Weinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, oedd a chyfrifoldeb am  yr iaith pan sefydlwyd y tasglu, oedd bod angen i’r Eisteddfod wneud mwy i ddenu pobl ddi-gymraeg, er enghraifft.

Ond yn dilyn adroddiad mewnol gan yr Eisteddfod Genedlaethol y  llynedd, fe roddwyd newidiadau ar waith erbyn Eisteddfod Sir Ddinbych eleni.

Er y bydd  y tasglu  yn cyhoeddi ei gasgliadau heddiw, ni fydd rhaid i’r Eisteddfod dderbyn yr argymhellion gan mai Llys yr Eisteddfod fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.