Mae S4C wedi cadarnhau na fydd y rhaglen materion cyfoes Taro 9 yn dychwelyd i’r sgrin dros y flwyddyn i ddod.

Ond yn ôl S4C, does dim cynlluniau i leihau nifer yr oriau o raglenni newyddion a materion cyfoes y byddan nhw’n ei gael gan y BBC sy’n cynhyrchu Taro 9.

Meddai  llefarydd ar ran S4C: “Yn dilyn trafodaethau gyda’r BBC, fydd ’na ddim cyfres o Taro 9 yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ond does ’na ddim cynlluniau i leihau nifer yr oriau o raglenni newyddion a materion cyfoes rydym yn eu derbyn gan y BBC.

“Mae ffurf a natur y ddarpariaeth honno yn fater sy’n cael ei drafod rhwng y ddau ddarlledwr yn gyson. Byddwn yn parhau i drafod materion o’r fath gyda’r BBC gan ganolbwyntio ar ddarparu cynnwys gwreiddiol o’r safon uchaf.”